Bwyd
Does dim “cynllun bwyd” i’w ddilyn – chi sydd angen creu eich ffordd o fwyta chi i gynnwys bwyd chi’n caru a sy’n mynd i ffitio mewn i’ch amserlen chi.
Wrth gwrs, mae na rhai egwyddorion i’w ddilyn os i chi eisiau byw bywyd iach a rhoi y maeth cywir i’ch corff er mwyn iddo weithio ar ei orau.
Felly, dyma ysbrydoliaeth i chi. Does dim rhaid i’ch wythnos gynnwys y prydau yma o gwbwl. Gewch chi addasu pethau chi’n neud yn barod – neu addasu’r ryseitiau yma i’ch daint chi a’ch teulu.
Angharad x
Maethegydd Cofrestredig DipION mBANT CNHC

Uwd Dros Nos
Rwy’n hoff iawn o geirch dros nos – brecwast cyflym a hawdd!!

Afalau Wedi Stiwio
Mae afalau yn cynnwys pectin, math arbennig o ffeibr mae’r microbes yn eich perfedd yn caru! Mae coginio afalau yn rhydhau mwy o pectin.

Smwddis
Mae smwddis yn medru cael bach o bad rep – ond nid yw pob smwddi yn cael ei greu yn gyfartal!

Powlen Iogwrt
Rysait mor hawdd i’w ddilyn.

Crempogau Ceirch a Banana
Gweinwch y crempogau yma gyda iogwrt a hadau.

Mwy o Geirch Wedi Pobi
Fe allwch fynd ar y we i chwilio am fwy o fersiynau o uwd wedi pobi – ma nhw’n boblogaidd iawn…

Pethau ar Dost
Pan dwi’n gweld darn o dost a jam ar dyddiadur bwyd client dwi’n gwbod lle hawdd i ddechre gwella’r diet…

Ceirch Wedi Pobi
Mae ceirch wedi pobi yn ffordd wych o gael protein a ffeibr i frecwast.

Tiwna Meio
Mae’r dyddiau pan oeddwn yn bwyta 1/2 tun tiwna i ginio wedi hen fynd – rydw i bellach yn bwyta tun cyfan i fy hun.
Taith fythgofiadwy,
diolch Tŷ Ffit