Polisi Preifatrwydd
Diweddarwyd Diwethaf 02-Ion-2025
Dyddiad Dod i Rym 02-Ion-2025
Mae’r Polisi Preifatrwydd hwn yn disgrifio polisïau Cwmni Da, Doc Fictoria, Caernarfon LL55 1SR, Deyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, e-bost: post@cwmnida.tv, ffôn: 01286 685300 ynglŷn â chasglu, defnyddio a datgelu eich gwybodaeth a gasglwn pan ydych chi’n defnyddio ein gwefan ( tŷffit.com ). (y “Gwasanaeth”). Drwy ddefnyddio'r Gwasanaeth, rydych yn cytuno y cawn gasglu, defnyddio a datgelu eich gwybodaeth yn unol â’r Polisi Preifatrwydd hwn. Os nad ydych yn rhoi caniatâd, peidiwch â cheisio’r Gwasanaeth na’i ddefnyddio.
Mae gennym yr hawl i addasu'r Polisi Preifatrwydd hwn ar unrhyw adeg heb roi unrhyw rybudd i chi a byddwn yn rhannu’r Polisi Preifatrwydd diwygiedig ar y Gwasanaeth. Bydd y Polisi diwygiedig yn dod i rym 180 diwrnod ar ôl i’r Polisi diwygiedig gael ei rannu ar y Gwasanaeth ac os ydych chi’n parhau i ddefnyddio’r Gwasanaeth ar ôl yr amser hwn, yna bydd hynny’n golygu eich bod yn derbyn y Polisi Preifatrwydd diwygiedig. Felly, rydym ni’n awgrymu eich bod yn adolygu’r dudalen hon bob hyn a hyn.
-
Y Wybodaeth a Gasglwn:
Byddwn yn casglu ac yn prosesu’r wybodaeth bersonol ganlynol yn eich cylch chi:
- Enw
- E-bost
-
Sut Ydym yn Defnyddio Eich Gwybodaeth:
Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth rydym yn ei chasglu yn eich cylch ar gyfer y dibenion canlynol:
- Marchnata/Hyrwyddo
- Casglu adborth cwsmeriaid
Pe byddem eisiau defnyddio eich gwybodaeth am unrhyw reswm arall, byddwn yn gofyn am eich caniatâd ac yn defnyddio’ch gwybodaeth dim ond ar ôl cael caniatâd gennych chi a dim ond ar gyfer y diben(ion) yr ydych chi wedi’u caniatáu, oni bai bod rhaid i ni wneud dan y gyfraith.
-
Cadw Eich Gwybodaeth:
Byddwn yn cadw eich gwybodaeth bersonol gyda ni am amser amhenodol neu am gyhyd ag y bydd ei hangen arnom i gyflawni’r dibenion y casglwyd y wybobdaeth ar eu cyfer fel y nodir yn y Polisi Preifatrwydd hwn. Mae'n bosib y bydd angen i ni gadw peth wybodaeth am gyfnodau hirach, megis cadw cofnodion / adrodd yn unol â chyfraith berthnasol neu am resymau priodol eraill fel gorfodi hawliau cyfreithiol, atal twyll, etc. Mae'n bosib y caiff gwybodaeth ddienw a gwybodaeth gyfanredol, nad oes modd ei defnyddio i'ch adnabod chi (yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol), ei storio am gyfnod amhenodol.
-
Eich Hawliau:
Yn dibynnu ar ba gyfraith sy’n berthnasol, mae’n bosib y bydd gennych hawl i geisio a chywiro neu ddileu eich data personol neu gael copi o’ch data personol, cyfyngu ar y gwaith o brosesu’ch data yn weithredol, neu wrthod y fath brosesu, gofyn i ni rannu eich gwybodaeth bersonol ag endid arall, tynnu yn ôl unrhyw ganiatâd y rhoesoch i brosesu eich data, hawl i gyflwyno cwyn gydag awdurdod statudol a hawliau eraill dan gyfreithiau perthnasol. I roi'r hawliau hyn ar waith, gallwch ysgrifennu atom: post@cwmnida.tv. Byddwn yn ymateb i’ch cais yn unol â’r gyfraith berthnasol.
Noder: os nad ydych yn caniatau i ni gasglu neu brosesu’r wybodaeth bersonol ofynnol neu’ch bod yn tynnu’n ôl eich caniatâd i brosesu’r un wybodaeth at y dibenion gofynnol, mae’n bosib na allwch chi geisio na defnyddio'r gwasanaethau y casglwyd eich gwybodaeth ar ei gyfer.
-
Cwcis etc.
I ddysgu sut ydym ni’n defnyddio'r rhain a’r dewisiadau sydd gennych chi o ran y technolegau tracio hyn, darllenwch ein Polisi Cwcis.
-
Diogelwch:
Mae diogelwch eich gwybodaeth yn bwysig i ni a byddwn yn defnyddio mesurau diogelu rhesymol i atal y wybodaeth y cadwn yn eich cylch rhag cael ei cholli, ei chamddefnyddio neu ei haddasu heb awdurdod. Wedi dweud hynny, o ystyried y risgiau cynhenid, ni allwn sicrhau diogelwch absoliwt, ac o’r herwydd hynny, ni allwn sicrhau na gwarantu diogelwch unrhyw wybodaeth yr ydych chi’n ei throsglwyddo i ni ac rydych chi’n gwneud hynny ar eich menter eich hun.
-
Dolenni Trydydd Parti a Defnyddio’ch Gwybodaeth:
All ein gwefannau gynnwys dolenni at wefannau eraill na chânt eu gweithredu gennym ni. Nid yw’r Polisi Preifatrwydd hwn yn cwmpasu polisi preifatrwydd ac ymarferion eraill unrhyw drydydd parti, yn cynnwys unrhyw drydydd parti sy’n gweithredu unrhyw wefan neu wasanaeth y gellir eu defnyddio drwy bwyso ar ddolen ar y Gwasanaeth. Rydym yn awgrymu’n gryf eich bod yn adolygu polisi preifatrwydd pob safle we yr ydych chi’n mynd arni. Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros y cynnwys, polisïau preifatrwydd neu arferion safle neu wasanaethau unrhyw drydydd parti, ac nid ydym ychwaith yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb drostynt.
-
Swyddog Cwynion / Diogelu Data:
Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau neu bryderon ynghylch prosesu’ch gwybodaeth sydd ar gael i ni, cewch ysgrifennu at ein Swyddog Cwynion: Cwmni Da, Doc Fictoria, e-bost: post@cwmnida.tv. Byddwn yn mynd i'r afael â'ch pryderon yn unol â'r gyfraith berthnasol.
Polisi Preifatrwydd wedi’i greu gyda CookieYes.